Mehefin 2010
"Rwy'n gwybod eich bod yn gallu cael bagiau tanc a chewyll ar gyfer beiciau modur
a bod y rhan fwyaf o deithwyr ar y piliwn yn eistedd ar gefn y beic ac yn gwisgo
helmed, ond roedd un beiciwr, a oedd yn amlwg yn berson cŵn, yn reidio ar hyd
y ffordd yn eithaf da, ond pan yrrais wrth ei ochr ger y goleuadau traffig sylwais
fod yr hyn a dybiais oedd yn fag tanc mewn gwirionedd yn Labradôr du yn eistedd
yn eithaf balch ar danc y peiriant 500cc.
Am fy mod yn hoffi cŵn fy hun, roeddwn yn drugarog tuag at y ci, ond rhoddwyd
cyngor i'r reidiwr ynglŷn â'i ddiogelwch ef ac yn bwysicach, diogelwch y ci."
01/06/2010 15:17:51