Mae llawer mwy o geir, faniau a lorïau ar ein ffyrdd na beiciau modur, ac mae agwedd gyrwyr at feicwyr modur yn amrywio cryn dipyn. Mae'r rhan fwyaf ohonynt, yn gwbl anfwriadol, yn methu â rhagweld beth fydd beicwyr modur yn ei wneud na'r ffaith eu bod ar y ffordd o gwbl.
Yn anffodus, mae beicwyr modur 45 gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd na gyrwyr ceir ac mae'r nifer yn cynyddu. Fel gyrrwr car, gallwch helpu i leihau'r ystadegau hyn drwy fod yn fwy ymwybodol o feicwyr modur.
- Byddwch yn effro - gall beiciau modur fod ar y ffordd ar unrhyw adeg, felly byddwch yn wyliadwrus, yn arbennig ar gyffyrdd neu wrth oddiweddyd neu newid lôn
- Tybiwch fod y beic modur yn nes o lawer nag ydyw - oherwydd ei faint, mae'n edrych yn bellach i ffwrdd nag ydyw mewn gwirionedd
- Peidiwch ag anghofio bwrw golwg dros eich ysgwydd - edrychwch yn eich drych yn rheolaidd a thros eich ysgwydd yn y man dall cyn symud allan i'r traffig neu newid lôn
- Cadwch eich ffenestri'n lân - gall pethau fel llwyni neu ffensys y tu allan guddio beiciau modur ac felly nid yw ffenestri brwnt yn helpu o ran gwelededd
- Peidiwch â gyrru wrth gwt modur - gyrrwch ar bellter diogel y tu ôl gan adael mwy o bellter stopio rhyngoch chi a'r beic modur
- Rhowch ddigon o le i feiciau modur - efallai eu bod yn llai, ond wrth oddiweddyd, rhowch ddigon o le iddynt - cymaint â char, a chofiwch bod angen lôn gyfan i reidio
- Mae'n anodd barnu cyflymder beic modur, a gallai ymddangos fel petai'n symud yn gynt nag y mae mewn gwirionedd
- Gall beicwyr modur newid eu safle'n aml mewn lôn am reswm arbennig ac nid i rodresa neu i'ch gwylltio - weithiau, mae'n rhaid iddynt fod yn fwy gweladwy neu mae'n rhaid iddynt ddygymod â llanast ar y ffordd, cerbydau sy'n mynd heibio neu'r tywydd
- Byddwch yn ofalus iawn pan yw hi'n dywyll - gall fod yn fwy anodd gweld beiciwr modur yn y nos - yn arbennig os yw o flaen cerbyd mawr
Cofiwch, rydych chi'n fwy na nhw!