
Bydd yn rhannu ei storïau am ymddygiad reidio gwael ar ffyrdd de Cymru mewn blog misol.
Am faint rydych chi wedi bod yn reidio beic modur?
Dros 10 mlynedd erbyn hyn.
Beth ddenodd chi at feicio?
Mae'n rhaid ei fod yn y gwaed gan fod fy nhad a phump o'm brodyr yn feicwyr ac ni allwn mewn gwirionedd osgoi hynny. Fe ges i ychydig o brofiad oddi ar y ffordd a oedd yn ddigon i'm dal a dw i ddim wedi 'difaru.
Pam dewisoch chi fod yn blismon beic modur?
Rwy'n dwlu ar feicio modur felly rwy'n gallu defnyddio fy hobi a'm brwdfrydedd i geisio gwneud gwahaniaeth a cheisio addysgu beicwyr eraill ynghylch yr angen i fod yn ddiogel ar y ffyrdd. A hefyd rwy'n cael fy nhalu i wneud rhywbeth rwy'n dwlu ei wneud!
Beth sy'n rhoi'r mwynhad mwyaf i chi wrth reidio?
Yr hyblygrwydd a'r rhyddid o fod ar gefn y beic a hefyd teimlo eich bod yn rhan o'r amgylchedd.

A'r peth gorau am y swydd?
Oherwydd fy mod wedi fy hyfforddi i'r fath safon a bod gen i wybodaeth helaeth fel plismon beic modur, rwy'n gallu defnyddio hynny er lles y cyhoedd a beicwyr eraill, gan drosglwyddo'r sgiliau a'r ddoethineb a gefais. Rwy hefyd wedi cael y pleser a'r anrhydedd o hebrwng unigolion cyhoeddus adnabyddus, pobl bwysig iawn a selebs.
A'r gwaethaf?
Gorfod mynd i wrthdrawiadau ar y ffordd lle mae damweiniau wedi digwydd oherwydd reidio/gyrru gwael ac unigolion wedi cael eu hanafu'n ddifrifol iawn.
Beth yw'r cyngor gorau a gawsoch am feicio modur?
Bod yn barod i ddysgu bob amser a pheidio â bod yn or-hyderus yn eich gallu. O, a bod yn ddiogel.
Mae Kevin yn feiciwr modur a gyrrwr ceir uwch yn yr heddlu ar raddfa VIP. Mae wedi bod yn yr heddlu am 10 mlynedd ac wedi gweithio ym maes traffig am bedair o'r rhain fwy neu lai. Yn ogystal â bod yn hyfforddwr CBT cymwys, mae Kevin yn un o'r cydlynwyr sy'n arwain cynllun BikeSafe yn ardal Heddlu De Cymru.