English | Cysylltu â ni | Hepgor Llywio
 

Blog plismon beic modur

Bike cop blog

Profi'ch gwybodaeth gyda'n cwis diogelwch

Take your knowledge with our Safety Quiz

Eich Beic

Motorbike
Beic modur
Cyn mynd ar eich beic, cwblhewch y gwiriad PŴER. Mae'n bwysig gwneud y gwiriadau syml hyn fel mater o arfer bob tro y byddwch yn bwriadu reidio, er mwyn sicrhau bod y beic mewn cyflwr da.

Petrol: oes gennych chi ddigon o danwydd ar gyfer eich taith?

Olew: gwiriwch lefelau olew'r injan a hefyd lefelau hylif yr oerydd a'r cydiwr a gwirio am ollyngiadau.

Dŵr: gwiriwch fod y gronfa ddŵr ar y lefel gywir ac nad oes dim yn gollwng 

Pethau trydan: ydy'r holl oleuadau'n gweithio'n iawn? Edrychwch ar y lampau mawr, goleuadau'r breciau a'r cyfeirwyr. Gwiriwch fod y corn yn gweithio a bod goleuadau rhybudd yr offer yn cynnau ac yn diffodd. 

Rwber: gwiriwch bwysau eich teiars a dyfnder y gwadn. Chwiliwch am dreulio, toriadau a cherrig neu bethau niweidiol eraill wedi glynu yn y gwadn. 

Os nad ydych chi'n defnyddio'ch beic bob dydd, neu os ydych yn ailgydio ar ôl y gaeaf, dylech archwilio'r beic yn ofalus iawn - cliciwch yma ar gyfer y ddolen i'r gofynion sylfaenol ar gyfer rhestr wirio MOT beic modur. Dewch yn gyfarwydd â'r ffordd y mae'r beic yn gweithio cyn cychwyn. 

Llwytho eich beic 

Yn mynd i'r siop neu ar eich gwyliau? Gwiriwch lawlyfr eich beic os ydych yn bwriadu cario llwyth a pheidiwch â gorlwytho. Dylech ddosbarthu'r llwyth yn gyfartal a sicrhau nad yw'n ymyrryd â'ch gallu i reoli'r beic. Dylid clymu bagiau tanc a chewyll yn ddiogel fel nad ydynt yn symud.