English | Cysylltu â ni | Hepgor Llywio
 

Blog plismon beic modur

Bike cop blog

Profi'ch gwybodaeth gyda'n cwis diogelwch

Take your knowledge with our Safety Quiz

Eich Cit

Efallai y cewch eich temtio i arbed arian ar y dillad ar ôl i chi gynilo'n galed a gwario llawer o arian ar eich beic, ond yr hyn y byddwch chi'n ei wisgo yw'r unig amddiffyniad sydd gennych rhag anafiadau os byddwch yn cael damwain.  

Mae gwisgo'r dillad cywir hefyd yn helpu i'ch amddiffyn rhag yr elfennau, y pryfed neu'r rwbel y byddwch yn dod i gysylltiad â nhw.  

Wrth brynu'r dillad, ystyriwch bethau fel:  
 

  • cysur - y dillad yn ffitio'n iawn ac yn gysurus, heb rwystro symudiad 
  • gwelededd - yn helpu defnyddwyr eraill y ffordd i'ch gweld, felly gallech ystyried dillad fflwroleuol yn y dydd a defnydd adlewyrchol ar gyfer y nos  
  • y tywydd - dylech amddiffyn eich hun yn addas rhag oerfel a gwlybaniaeth fel na fydd eich canolbwyntio'n dioddef wrth reidio    

Dylech wisgo'r canlynol pan fyddwch yn reidio'ch beic:  

  • Helmed - rhaid i chi wisgo helmed diogelwch yn ôl y gyfraith pan fyddwch yn reidio beic ar y ffordd. Rhaid iddo gydymffurfio â'r safonau diogelwch perthnasol a pheidiwch byth â phrynu helmed ail-law. Os yw wedi'i niweidio, prynwch un newydd. Dewiswch helmed sy'n ffitio'n iawn ac sy'n gysurus. Wrth reidio, defnyddiwch y ffasnydd fel bod yr helmed yn aros ar eich pen.  
  • Fisorau/goglau - Bydd angen y rhain arnoch i amddiffyn y llygaid rhag llwch, y gwynt a rwbel. Unwaith eto, dylent gydymffurfio â'r safonau diogelwch perthnasol. Peidiwch â defnyddio fisorau, goglau neu sbectol sydd wedi'u crafu, yn frwnt neu wedi'u niweidio. Peidiwch byth â defnyddio rhai arlliwedig yn y nos neu os yw gwelededd yn wael.  
  • Dillad amddiffynnol - trowsus hir a siaced. Chwiliwch am y defnydd cywir ar gyfer eich anghenion (lledr neu synthetig, amodau tywydd cynnes neu oer). Chwiliwch am farc Safon Diogelwch am ei fod yn gwarantu bod y dillad yn rhoi diogelwch digonol.  
  • Esgidiau mawr - ni fydd trênyrs yn amddiffyn eich traed a gallai'r carrai glymu o amgylch y pedalau. Chwiliwch am esgidiau sy'n amddiffyn eich migyrnau ac yn gafael yn dda.  
  • Menig - dylech wisgo menig bob amser. Maent yn amddiffyn rhag sgraffinio ac yn eich helpu i gadw reolaeth ar y beic.   

Peidiwch â chyfaddawdu ar ddiogelwch oherwydd y gost. Chwiliwch yn y siopau a gofynnwch am gyngor gan yr arbenigwyr.