Os ydych yn reidiwr newydd neu'n ddibrofiad, gallwch gael mwy o ymarfer a gwella eich reidio drwy ddysgu oddi wrth y beicwyr modur mwy galluog yn y grŵp. Fel beiciwr modur profiadol sydd wedi bod yn reidio ers blynyddoedd, mae reidio mewn grŵp yn cynnig cyfeillach a chyfle i ddarganfod ffyrdd a theithiau newydd.
Er bod taith mewn grŵp yn gallu bod yn bleserus iawn, mae'n werth cofio rhai awgrymiadau cyn cychwyn er mwyn diogelwch pawb.
Cynlluniwch y daith: p'un a yw'n daith fer gyda thri neu bedwar reidiwr yn unig, neu'n wibdaith diwrnod gyda grŵp mwy, dylid sicrhau bod pawb yn gwybod i ble y maen nhw'n mynd a ble rydych chi'n bwriadu aros am egwyl. Trefnwch y mannau cyfarfod fel na fydd neb yn teimlo dan bwysau i gadw i fyny neu i gymryd risg os byddant wedi'u gwahanu oddi wrth y grŵp. Efallai byddai'n syniad rhoi copi o'r daith (rhestr o'r ffyrdd a/neu fap ynghyd ag unrhyw beryglon hysbys neu fannau anodd), mannau cyfarfod a rhifau ffôn symudol er mwyn cysylltu â'r grŵp (yn ddiogel) os bydd rhywun yn mynd ar goll. Byddai'n syniad cael rhywun sydd wedi'i hyfforddi mewn cymorth cyntaf ar y reid.
Dilynwch yr arweinydd: dewiswch un o'r reidwyr mwy profiadol i arwain er mwyn iddynt osod y cyflymdra, yn ôl profiad a dycnwch y grŵp a'u beiciau. Enwebwch 'ysgubwr' i yrru yn y cefn i gadw golwg ar feiciau'n torri i lawr neu reidwyr araf, ac i alw am help os bydd damwain. Dylai'r ddau fod yn gyfarwydd â'r daith ac o bosib, bod ganddynt ryw ffordd o gysylltu â'i gilydd megis radio beic. Dylech reidio bob amser o fewn terfynau'r reidwyr llai profiadol felly gosodwch hwy y tu ôl i'r arweinydd. Dylid sicrhau bod pawb yn deall yr arwyddion llaw y byddwch yn eu defnyddio.
Mewn pâr: cyn cychwyn ar y daith, gweithiwch mewn parau i gwblhau'r gwiriadau sylfaenol ar eich cit a'ch beic. Dylid sicrhau bod gan y ddau ohonoch ddigon o betrol yn y tanc - yn anffodus, mae beicwyr wedi cael eu lladd mewn damweiniau wrth geisio dal i fyny â'r grŵp ar ôl aros i gael tanwydd.
Rheolau'r ffordd: gyrrwch yn ôl y beic y tu ôl i chi bob amser ac nid yr un o'ch blaen. Gofalwch eich bod yn gallu gweld y beic y tu ôl i chi yn eich drych drwy'r amser. Peidiwch â goddiweddyd heb gynllunio ymlaen llaw a chofiwch y rheol dwy eiliad i gadw'ch pellter o'r beic o'ch blaen.
Gyrru o fewn y terfynau: gyrrwch yn ôl amodau'r ffordd. Os yw rhywun yn reidio'n rhy gyflym o ran yr amodau, peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi ddal i fyny. Peidiwch â gyrru ar gyflymder sy'n fwy na'r hyn lle byddwch yn gysurus a theithiwch ar eich cyflymdra eich hun.