English | Cysylltu â ni | Hepgor Llywio
 

Blog plismon beic modur

Bike cop blog

Profi'ch gwybodaeth gyda'n cwis diogelwch

Take your knowledge with our Safety Quiz

Eich Teithwyr

Efallai eich bod wedi meistroli'r grefft o reidio beic modur ond mae cludo teithwyr yn sgil gwahanol iawn. Nid yw'r profion safonol na'r profion uwch chwaith yn manylu rhyw lawer ar deithwyr ar y piliwn, felly nid yw'n syndod bod ar lawer o fotorbeicwyr ofn cymryd person arall ar eu beic.

Cyn cludo teithiwr, dylid ystyried y canlynol:

  • rhaid bod eich beic yn addas i gludo teithwyr gyda seddau a throedleoedd digonol
  • bydd eich beic yn ymateb yn wahanol wrth gludo teithwyr ar y piliwn ac o bosib bydd yn rhaid i chi addasu'ch reidio oherwydd y llwyth ychwanegol
  • o bosib bydd angen addasu'r hongiad, y prif lampau a phwysau'r teiars oherwydd y pwysau ychwanegol (chwiliwch yn llawlyfr y gwneuthurwr)
  • os yw'ch trwydded beic modur yn un dros dro'n unig, ni chewch gludo teithwyr
  • er nad oes lleiafswm oed cyfreithiol ar gyfer teithiwr ar y piliwn, gwnewch yn siŵr bod ganddynt ganiatâd eu rhieni, eu bod yn gwisgo'r dillad amddiffynnol cywir a'u bod yn gallu cyrraedd y troedleoedd

Fel reidiwr ...

  • dylech sicrhau bod eich teithiwr yn gwisgo dillad amddiffynnol digonol gan gynnwys helmed diogelwch sy'n ffitio'n gywir
  • chi sy'n gyfrifol am ddiogelwch eich teithiwr felly peidiwch â cheisio'u dychryn
  • dywedwch wrth eich teithiwr beth sy'n mynd i ddigwydd cyn dechrau er mwyn rhoi sicrwydd iddynt
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu gweld yn glir wrth edrych yn eich drychau

Fel teithiwr ar biliwn ...

  • ymlaciwch ac ewch gyda symudiad y beic - peidiwch â cheisio eistedd yn unionsyth ar dro
  • daliwch yn dynn drwy'r amser - naill ai dal y rheilyn cydio neu cydiwch yn y gyrrwr wrth y wasg a gafaelwch â'ch pengliniau pan fydd y beic yn brecio
  • cadwch eich traed ar y troedleoedd drwy'r amser, hyd yn oed pan fo'r beic yn aros wrth gyffyrdd, goleuadau traffig etc
  • eisteddwch yn llonydd ac yn bwysicach, peidiwch â sgrechen - cytunwch ar arwydd eich bod am arafu neu stopio gyda'r reidiwr cyn cychwyn (fel cyffwrdd â'r ysgwydd)