Mae bod yn reidiwr da nid yn unig yn ymwneud â hyfforddiant neu fod â'r cit cywir. Mae'n ymwneud hefyd â bod yn y cyflwr meddwl iawn wrth i chi gychwyn ar eich beic.

Beic Modur
Mae reidio beic modur yn gofyn llawer mwy oddi wrthych yn gorfforol na gyrru car ac mae'n golygu llawer mwy o ganolbwyntio. Mae edrych a chynllunio ymlaen llaw ar gyfer pob perygl, sefyllfa ac amodau yn hanfodol ar gyfer reidio diogel a phleserus.
Cyn mynd allan, holwch eich hun a ydych mewn tymer addas i reidio. Peidiwch â mynd ar gefn eich beic os ydych yn teimlo'n flinedig neu'n sâl. A chofiwch, gall yr ychydig o ddiod a gawsoch y noson gynt effeithio ar eich gallu drannoeth.