English | Cysylltu â ni | Hepgor Llywio
 

Blog plismon beic modur

Bike cop blog

Profi'ch gwybodaeth gyda'n cwis diogelwch

Take your knowledge with our Safety Quiz

Glaw

Glaw

Glaw

Mae byw neu reidio yng Nghymru yn golygu na fedrwch mewn gwirionedd osgoi bod allan ar eich beic yn y glaw ryw bryd, beth bynnag fo'r tymor. Bydd yn rhaid i chi a'ch beic berfformio mewn ffordd wahanol yn y glaw, ond drwy addasu eich reidio yn ôl yr amodau a deall cyfyngiadau a pheryglon tywydd gwlyb, gall fod yn brofiad pleserus - ac nid yn rhywbeth i'w ofni. 

  • Arafwch - gyrrwch yn arafach er mwyn i chi gael mwy o amser i ymateb a brecio 
  • Gadewch fwy o le rhyngoch a'r cerbyd o'ch blaen - o leiaf dwywaith y pellter pan fyddwch yn reidio yn y glaw 
  • Rhagweld - edrychwch o'ch blaen am newidiadau i wyneb y ffordd ac addaswch y ffordd rydych chi'n reidio yn ôl y galw. Gall rhai arwynebau megis llygaid cathod, llinellau gwyn/marciau ffordd a chloriau draeniau fod yn llithrig iawn yn y glaw felly ceisiwch eu hosgoi os yw'n bosib. 
  • Gwyliwch rhag gollyngiadau diesel (sy'n aml yn ymddangos fel patrwm enfys mewn mannau gwlyb) 
  • Ceisiwch osgoi newidiadau sydyn yn eich gyrru neu adael manwfro tan y funud olaf 
  • Rheolwch eich beic yn llyfn - dylech fod yn araf ar y bręc, y cydiwr a'r throtl a chofiwch hefyd sut mae gafael y teiars yn newid yn y glaw 
  • Dylech wisgo dillad gwrth-ddŵr da (gan gynnwys esgidiau mawr) neu fe fyddwch yn teimlo'r oerni pan fyddwch yn wlyb 
  • Os ydych wedi cadw'ch fisor yn lân a heb lwch, bydd y gwynt yn symud y glaw oddi arno'n naturiol. Mae cynnyrch ar gael i'ch helpu i gael gwared ar y glaw, ond y gorau yw sebon, dŵr a fisor glân 
  • Mae gwelededd yn wael mewn tywydd gwael felly gwnewch yn siŵr eich bod yn weladwy i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd - reidiwch gyda'ch goleuadau ymlaen a chofiwch wisgo dillad gweledol iawn