Mae bod ar ddwy olwyn yn eich gwneud yn fwy agored i niwed na defnyddwyr eraill y ffordd ac mae diffyg gwelededd yn y nos yn golygu eich bod yn gorfod bod yn fwy effro wedi iddi nosi.
Er mwyn gwneud reidio yn y nos yn fwy diogel ac yn fwy pleserus ...
- Cadwch eich goleuadau'n lân gan ofalu eu bod yn gweithio cyn cychwyn
- Os ydych yn reidio'n aml yn y nos, dylech adnewyddu'ch fisor yn rheolaidd - mae fisorau sydd wedi'u sgathru, sy'n frwnt neu'n ddiffygiol yn fwy peryglus yn y tywyllwch
- Peidiwch â defnyddio fisor arlliwedig yn y nos - mae'n anghyfreithlon ac ni fyddwch yn gallu gweld dim
- Cadwch yn ddigon pell o gerbydau eraill ac arafwch - mae'n fwy anodd barnu pellter a chyflymder yn y tywyllwch, felly gofalwch eich bod yn gallu stopio'n ddiogel
- Dylech chi ac unrhyw deithiwr ar y piliwn wisgo dillad gweladwy iawn fel y gall defnyddwyr eraill y ffordd eich gweld o bellter. Os ydych yn cludo bagiau fel ysgrepanau, ystyriwch brynu stribedi gludiog gweladwy iawn
- Peidiwch ag anghofio ei bod yn oeri gyda'r nos, hyd yn oed yn yr haf, felly gwnewch yn siŵr bod gennych ddillad cynnes neu sawl haen
- Blaengynlluniwch - mae'n fwy anodd gweld peryglon yn y nos
- Ceisiwch osgoi edrych ar belydrau'r traffig sy'n dod tuag atoch
- Peidiwch â reidio os ydych wedi blino, yn arbennig yn y nos - os ydych ar daith hir, stopiwch yn rheolaidd ac yfwch ddigon o de/coffi
- Cariwch fylbiau sbâr rhag ofn
- Cofiwch ei bod yn fwy anodd i fodurwyr eraill eich gweld yn y nos am fod eich goleuadau chi'n ymdoddi i oleuadau'r holl gerbydau eraill - byddwch yn wyliadwrus iawn