English | Cysylltu â ni | Hepgor Llywio
 

Blog plismon beic modur

Bike cop blog

Profi'ch gwybodaeth gyda'n cwis diogelwch

Take your knowledge with our Safety Quiz

Y gaeaf

Y gaeaf

Y gaeaf

Er bod y rhan fwyaf o reidwyr yn rhoi eu beiciau heibio dros fisoedd oer a gwlyb y gaeaf, i eraill, mynd ar eu beiciau yw'r unig ffordd sydd ganddynt i deithio o A i B. Mae eraill yn mwynhau reidio drwy gydol y flwyddyn.

Nid yw ffyrdd rhewllyd, gwyntoedd cryfion, niwl trwchus, eira a glaw yn amodau da iawn ar gyfer bod ar gefn beic modur, felly rhaid i reidwyr weithredu rhai rhagofalon ychwanegol.

  • Gwnewch yn siŵr fod y beic mewn cyflwr gweithio da - peidiwch ag anghofio'r gwiriadau Pŵer a chadwch eich prif lampau'n lân fel y gall defnyddwyr eraill y ffordd eich gweld
  • Bydd rhaid i chi ganolbwyntio'n ofalus mewn amodau tywydd oer er mwyn paratoi ar gyfer rhagweld peryglon ychwanegol y gaeaf megis dail llithrig a halen ar y ffordd
  • Cadwch yn gynnes - yn ogystal â'ch dillad amddiffynnol arferol, dylech ystyried dillad thermol a gwrth-ddŵr
  • Cyn cychwyn gwrandewch ar ragolygon y tywydd ac ystyried gohirio'ch taith neu deithio mewn ffordd arall os yw rhagolygon y tywydd yn wirioneddol ddrwg
  • Efallai na fydd defnyddwyr eraill y ffyrdd yn disgwyl eich gweld chi a'ch beic ar y ffordd yn ystod y gaeaf felly byddwch yn wyliadwrus iawn a chadwch eich pellter
  • Gyrrwch yn briodol yn ôl yr amodau
  • Ystyriwch ficrohinsoddau. Dyma'r amodau tywydd lle mae rhew cynnar y bore neu fannau gwlyb yn aros mewn mannau (fel llawr dyffrynnoedd, llechweddau cysgodol neu ardaloedd yng nghysgod coed, adeiladau neu bontydd), ar ôl diflannu ym mhob man arall. Mae hynny'n golygu bod cyflwr wyneb y ffordd yn fwy agored i'r tywydd mewn mannau ac felly bydd yr amodau gyrru'n wahanol