Mae'r dyddiau'n ymestyn, mae'r nosweithiau'n oleuach ac mae'n bryd paratoi eich beic ar gyfer y tymor newydd.
Ar ôl misoedd o fod yn gaeth i'r car, rydych chi'n ysu am fynd am dro ar gefn y beic. Ond dyma pryd byddwch yn fwyaf agored i niwed, felly mae'n werth cymryd pwyll a dod i arfer â'r beic unwaith eto.
Cofiwch:
- Os nad ydych wedi bod ar y beic o gwbl drwy'r gaeaf, yna bydd eich sgiliau ychydig yn rhydlyd! Peidiwch â mentro gormod a chymryd risg.
- Beth am fynd ar gwrs BikeSafe ar ddechrau pob tymor i roi hwb i'ch hyder a'ch gallu?
- Pwyllwch er mwyn ymgyfarwyddo unwaith eto â'ch beic a'r offer
- Archwiliwch eich beic yn drwyadl cyn mentro allan i sicrhau ei fod yn gweithio'n iawn
- Archwiliwch eich helmed am ddiffygion - strapiau wedi treulio er enghraifft, a gosodwch fisorau newydd yn lle'r rhai sydd wedi'u 'sgathru
Byddwch yn ymwybodol o danbeidrwydd yr haul yn ystod misoedd yr haf
- Peidiwch â chyfaddawdu o ran diogelwch - gallai reidio mewn crys-T, siorts a sandalau ymddangos yn syniad da pan fo'r tymheredd wedi codi ond eich dillad amddiffynnol yw'r unig beth sy'n eich amddiffyn rhag y ffordd os cewch ddamwain
- Byddwch yn ofalus wrth reidio mewn glaw ar ôl cyfnod hir a sych - gall y ffordd fod yn llithrig iawn am y deng munud cyntaf
- Os yw'n arbennig o gynnes, yfwch ddigon (diodydd di-alcohol). Gall dihydradiad achosi blinder a diffyg canolbwyntio. Ar deithiau hir, cynlluniwch egwylion rheolaidd
- Mae llawer mwy o draffig ar y ffyrdd yn ystod yr haf oherwydd twristiaid, yn enwedig ar y ffyrdd i rai o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Cymru - byddwch yn wyliadwrus wrth yrru y tu ôl i garafannau