English | Cysylltu â ni | Hepgor Llywio
 

Blog plismon beic modur

Bike cop blog

Profi'ch gwybodaeth gyda'n cwis diogelwch

Take your knowledge with our Safety Quiz

Awgrym y mis

Ionawr

Bydd amodau tywydd gwael yn effeithio ar eich gwelededd, a bydd trafod a gafael y beic yn golygu bod sgidio a sglefrio ar ddŵr yn fwy tebygol. Cofiwch hyn a reidiwch dim ond os bydd rhaid. Gwyliwch am ficrohinsawdd. Gall iâ a gwlybaniaeth aros mewn mannau cysgodol. Reidiwch yn ôl yr amodau.

Chwefror

Dyma fis y gwyntoedd uchel a'r glaw trwm. Gwyliwch rhag croeswyntoedd sy'n gallu'ch gyrru oddi ar eich llwybr. Gwiriwch ragolygon y tywydd cyn dechrau ar eich taith. Os ydych eisoes ar y ffordd a'r gwynt yn codi, edrychwch ar yr hosanau gwynt a cherbydau eraill. Cadwch at gyflymder isel a chynlluniwch eich llwybr i roi mwy o le ar eich ochr gyda'r gwynt. Mae mwy o berygl i feiciau mawr mewn gwyntoedd cryfion.

Mawrth

I rai ohonom mae tymor y beicio gerllaw, gyda mwy a mwy o feiciau'n ymddangos ar ôl hirgwsg y gaeaf ac yn barod am y misoedd cynhesach a sychach. Gofalwch fod eich beic wedi'i baratoi gan sicrhau bod popeth yn gweithio'n iawn ac yn gyfreithlon.

Ebrill

Nid eich beic yn unig sy'n ymddangos wedi hirlwm y gaeaf! Beth amdanoch chi? Mae gwyliau'r Pasg yn gyfnod prysur i feicwyr yn gyffredinol, yn arbennig y rheiny sydd heb reidio llawer dros y gaeaf. Rhowch ychydig o sglein ar eich sgiliau a'ch gallu - beth am ystyried cwrs BikeSafe, sy'n cychwyn y mis yma?

Mai

Wedi hel rhai milltiroedd dros fis Mawrth ac Ebrill a rhoi sglein ar eich sgiliau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau'r gwiriadau PŴER yn rheolaidd wrth i chi ddefnyddio'ch beic yn fwy yn ystod misoedd yr haf. Bydd y gwiriad PŴER yn sicrhau bod eich beic yn y cyflwr gorau posib ac yn ddiogel.

Mehefin

Byddwch mor sylwgar ag erioed. Yn ystod y gaeaf, mae'r tywydd gwlyb yn tanlinellu'r amodau ffyrdd gwael, ond yn y gwanwyn a'r haf, mae'n rhaid i chi fod yn fwy sylwgar o lawer oherwydd bod mwy o draffig ar y ffordd a hynny'n golygu mwy o fannau lle mae olew a dîsl wedi gollwng.

Gorffennaf

Mae llawer o selogion beiciau modur yn mynd ar eu gwyliau ym mis Gorffennaf, gan lwytho'u beiciau ag offer a bagiau. Peidiwch â gorlwytho'ch beic, gofalwch fod y llwyth yn ddiogel ac mewn bagiau addas. Darllenwch awgrymiadau eich gwneuthurwr ar gyfer cludo llwythi a gwiriwch bwysau'r teiars hefyd oherwydd y llwyth ychwanegol.

Awst

Gan fod y tywydd yn braf, byddwch yn mynd ar deithiau hwy ac ymhellach. Dylech sicrhau digon o egwylion gorffwys er mwyn cadw lefelau canolbwyntio ac yfed digon o ddiodydd (dim alcohol). Peidiwch â chael eich temtio i wisgo llai o ddillad amddiffynnol yn y gwres gan fod mwy o beryglon ar y ffordd oherwydd mwy o draffig, a hynny'n eich gwneud yn fwy agored i niwed.

Medi

Diwedd y tymor gwyliau ond digon o draffig ar y ffyrdd o hyd. Parhewch â'ch arsylwadau mynych a sicrhau eich bod yn reidio yn y safle cywir, ar y cyflymder cywir a'r gêr cywir ar gyfer y cyflymder hwnnw. Y mis yma yw'r cyfle olaf am gwrs BikeSafe, felly beth am wneud cais i wella'ch sgiliau eto?

Hydref

Y peth mwyaf brawychus yn ystod y mis yma yw'r ffaith fod yr haul yn is yn yr awyr. Mae llawer o ddamweiniau'n digwydd oherwydd bod gyrwyr wedi'u dallu gan yr haul a heb weld beicwyr modur, gan achosi gwrthdrawiad. Gofalwch fod eich prif olau ymlaen ac yn lân, a'ch bod yn gwisgo siaced/bib adlewyrchol. Ceisiwch gyswllt llygad â gyrwyr eraill. Os methwch, defnyddiwch eich corn neu'ch goleuadau i'w rhybuddio eich bod ar y ffordd.

Tachwedd

Mae'r tywydd oer a llaith wedi cyrraedd, felly gofalwch eich bod yn gwisgo'r cit cywir i'ch cadw'n sych ac yn gynnes. Os byddwch yn oeri ac yn gwlychu, byddwch yn methu canolbwyntio'n iawn ac yn blino, gan achosi mwy o berygl. Mae'r hydref wedi cyrraedd a'r dail yn disgyn ar y ffordd - felly'r rheol euraid yw - os yw'n sgleinio, gochelwch. Peidiwch ag anghofio am eich gwiriadau PŴER a gwnewch yn siŵr bod pwysau eich teiars (yn ôl argymhelliad y gwneuthurwr) a'r dyfnder (1mm) yn gywir.

Rhagfyr

Mae'r tywydd yn gallu bod yn ddifrifol gyda niwl, tarth, eira ac eirlaw - nid dyma'r amodau gorau i fynd am dro ar y beic. Gwnewch yn siŵr bod eich fisor yn lân, a defnyddiwch chwistrell gwrth-darth ar fisorau a drychau. Gwiriwch fod eich goleuadau'n lân ac yn gweithio'n iawn fel y gall modurwyr eraill eich gweld. Reidiwch ar gyflymder addas a dyblwch eich pellter stopio.