English | Cysylltu â ni | Hepgor Llywio
 

Blog plismon beic modur

Bike cop blog

Profi'ch gwybodaeth gyda'n cwis diogelwch

Take your knowledge with our Safety Quiz

Canolbwyntio Ar

WYBODAETH  

Gwybodaeth yw fframwaith hanfodol beicio modur ac mae'n ymgorffori holl agweddau eraill reidio, megis eich lleoliad ar y ffordd, eich cyflymder, eich gerau a'ch cyflymu. Mae'n rhaid i chi geisio gwybodaeth wrth gynllunio'ch reid a dylech roi gwybodaeth bob amser i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd. Oherwydd eich bod yn fwy agored i niwed fel beiciwr modur, mae eich diogelwch, ac weithiau eich bywyd yn dibynnu ar eich gallu i GYMRYD, DEFNYDDIO A RHOI gwybodaeth (TUG). Dylech gyflawni'ch gwiriadau achub bywyd - cyn newid lleoliad neu gyflymder, bwriadu goddiweddyd, cychwyn neu stopio, rhaid i chi wybod beth sy'n digwydd o'ch blaen, i'r ochrau a'r tu ôl i chi. Gwnewch yn siŵr bod pobl yn gwybod eich bod chi yno drwy ddefnyddio'ch corn neu'ch goleuadau a sicrhau bod defnyddwyr eraill y ffyrdd yn gwybod i ba gyfeiriad rydych chi'n mynd, felly defnyddiwch eich cyfeirwyr a goleuadau eich breciau. Er mwyn cael yr holl wybodaeth bosib, bydd rhaid i chi ddefnyddio'ch synhwyrau i gyd (gweld, clywed, arogli, teimlo), sicrhau eich bod wedi edrych y tu ôl i chi, a gwnewch y gwiriadau achub bywyd perthnasol.

LLEOLIAD AR Y FFORDD  

Dylech leoli'ch hun fel y gallwch symud heibio i beryglon yn ddiogel ac yn ddidrafferth. Cyn newid eich lleoliad, edrychwch y tu ôl i chi bob amser. Beth bynnag yw'r lleoliad yr ydych yn bwriadu mynd iddo, dylech hoelio'ch llygaid i edrych cyn belled ag y gallwch i'r pellter ac yn ôl i'ch safle presennol, gan sganio'r ffordd ac wyneb y ffordd i'ch helpu i fod yn y safle cywir ar gyfer yr amgylchiadau sydd o'ch blaen.  

CYFLYMDER  

Newidiwch eich cyflymder ar gyfer y perygl o'ch blaen gan ystyried gwelededd, wyneb y ffordd, faint o gorneli sydd, a defnyddwyr eraill y ffyrdd. Cofiwch am beryglon anweledig hefyd. Arafwch drwy ddefnyddio'ch breciau a synnwyr cyflymder, yn hytrach na'ch gerau.  

GERAU  

Dewiswch y gêr addas ar gyfer y cyflymder y byddwch yn ei deithio. Ewch drwy'r gerau un ar y tro a pheidiwch â defnyddio newid blocio. Bydd gweithio drwy'r gerau un ar y tro'n helpu'r olwyn ôl rhag troelli a chloi.  

CYFLYMU  

Unwaith i chi fynd heibio'r perygl, edrychwch y tu ôl i chi eto. Bellach dylech fod yn y gêr cywir ar gyfer yr amgylchiadau. Defnyddiwch y throtl i gadw cyflymder a sefydlogrwydd ac agorwch y throtl ddigon i leihau unrhyw golli cyflymder ar ôl cornelu. Ystyriwch gyflwr wyneb y ffordd, faint o dro sydd yno, defnyddwyr eraill y ffordd, traffig a'r tywydd. Dewiswch fan addas i gyflymu'n ddiogel ac yn llyfn gan addasu maint y cyflymu yn ôl yr amodau.  


CORNELU  

Ystyr hyn yw reidio beic modur o gwmpas troad, cornel neu dro a dyma un o brif weithgareddau reidio, felly mae'n bwysig eich bod yn gwneud hyn yn iawn. Cofiwch y bydd eich peiriant yn mynd yn ansefydlog a'ch bod yn gofyn mwy gan eich teiars wrth gornelu.  

Dyma egwyddorion cornelu'n ddiogel:  

  • dylai eich beic fod yn y safle cywir wrth nesáu at y gornel  

  • dylech fod yn teithio ar y cyflymder cywir ar gyfer y gornel neu'r tro  

  • dylech fod yn y gêr cywir ar gyfer y cyflymder hwnnw  

  • a dylech fod yn gallu stopio ar eich ochr chi o'r ffordd o fewn y pellter sy'n glir o'ch blaen  

PEIDIWCH byth â brecio ar dro. Dylech dorri'ch cyflymder drwy frecio cyn y tro a dewis gêr addas cyn mynd trwyddo. Unwaith y byddwch yn y tro, defnyddiwch synnwyr cyflymu i deithio o amgylch y tro'n ddiogel ac yn llyfn. Os bydd yn rhaid i chi arafu mewn tro am eich bod yn teithio'n rhy gyflym, defnyddiwch synnwyr cyflymu ac, mewn argyfwng, breciwch yn ofalus ar y frêc gefn.  

GODDIWEDDYD  

Mae goddiweddyd yn symudiad peryglus, a diogelwch yw'r ystyriaeth bwysicaf. Mae tri phrif gam - safle dilyn, safle goddiweddyd ac yna'r goddiweddyd ei hun. Y safle dilyn yw'r safle lle byddwch yn cynllunio ac yn ymestyn eich arsylwadau. Teithiwch ar yr un cyflymder â'r cerbyd y byddwch yn ei oddiweddyd. Ar gyfer y safle goddiweddyd, cyrhaeddwch fan lle gallwch ymestyn eich arsylwi a chynllunio bwlch diogel i chi fynd iddo, sydd fel arfer yn golygu symud yn nes at gefn y cerbyd o'ch blaen. Pan fyddwch yn gweld ei bod yn ddiogel, heb beryglon o'ch blaen na'r tu ôl i chi, gallwch oddiweddyd. Dylech wneud yn siŵr beth sy'n digwydd o'ch blaen ac o'ch ôl. Gwnewch yn siŵr bod gennych fwlch diogel i ddychwelyd iddo pan fyddwch wedi cwblhau'r symudiad.  

FFILTRO  

Fel beiciwr modur, mae gennych yr hyblygrwydd a'r gallu i symud i ddefnyddio gofodau cyfyng er mwyn symud ymlaen mewn traffig sydd naill ai'n stond neu'n symud yn araf mewn ciw. Yr enw ar hyn yw ffiltro. Mae hyn yn cynyddu'r ffaith eich bod yn agored i niwed, ac os byddwch yn ffiltro, ystyriwch y canlynol  

  • Diogelwch yn gyntaf  

  • Gyrrwch ar gyflymder isel  

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych fwlch diogelwch i symud iddo  

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn weladwy i yrwyr eraill  

  • Ystyriwch ddefnyddio'ch corn neu'ch goleuadau i ddangos eich bod chi yno  

  • Byddwch yn gwrtais wrth ddefnyddwyr eraill y ffordd  

Mae damweiniau'n fwy cyffredin wrth ffiltro am nad yw beicwyr modur yn rhagweld defnyddwyr eraill y ffordd megis cerddwyr, cerbydau'n dod allan o gyffyrdd, cerbydau'n newid lôn neu'n gwneud tro pedol yn ddirybudd, drysau'n agor a hefyd beicwyr yn methu â chasglu'r wybodaeth angenrheidiol drwy sylwi ar farciau ffordd, ynysoedd traffig neu arwyddion. Dylech sylweddoli os byddwch yn cael damwain wrth ffiltro, y bydd y cwmni yswiriant yn cymryd rhan y cerbydau sydd yn eu hunfan.  

REIDIO AR DRAFFYRDD  

Bydd yn rhaid i chi fod yn ymwybodol o sawl peth wrth reidio'ch beic modur ar y draffordd:  

  • Cyflymder a swm y traffig  

  • Mannau gorffwys a chael tanwydd  

  • Peryglon stopio ar y llain galed  

  • Y canolbwyntio sy'n angenrheidiol  

Dylech hefyd wybod am ddeddfau gyrru ar y draffordd megis y gofynion ynghylch y drwydded yrru a'r math o feic modur a cc y beiciau modur a ganiateir.  

Cyn mynd ar y draffordd, cwblhewch eich gwiriadau PŴER. Rhaid i chi ystyried eich gwelededd, a sicrhau bod cerbydau eraill yn gallu eich gweld chi. Defnyddiwch eich corn a'ch goleuadau i rybuddio gyrwyr eraill eich bod yno. Byddwch yn ymwybodol iawn o'ch cyflymder. Ar 70 mya rydych yn teithio dros 100 troedfedd yr eiliad. Caniatewch ddigon o amser i ymateb, felly chwiliwch y ffordd cyn belled ag y medrwch. PEIDIWCH byth â goddiweddyd ar y tu mewn.  

Sylwch ar y tywydd wrth deithio ar y draffordd, yn arbennig gwyntoedd cryfion, oherwydd gall cerbydau ochrau uchel wyro o'ch blaen a pheri i chi gael eich sugno tuag atynt wrth i chi fynd heibio. Wrth fynd heibio i'r cerbydau hyn, rhowch ddigon o le i chi eich hun.  

COPAON DALL  

Mae brig gelltydd (neu gopaon dall) yn beryglon sefydlog a dylid eu parchu. Dyneswch yn y lleoliad cywir (yng nghanol eich lôn er mwyn caniatáu ar gyfer peryglon cudd fel cerbydau wedi'u parcio neu gerbydau'n dod tuag atoch ar yr ochr arall), ar y cyflymder addas ar gyfer y safle hwnnw ac yn y gêr cywir ar gyfer y cyflymder. Mae'n rhaid eich bod yn gallu stopio o fewn hanner y pellter sy'n glir o'ch blaen.