English | Cysylltu â ni | Hepgor Llywio
 

Blog plismon beic modur

Bike cop blog

Profi'ch gwybodaeth gyda'n cwis diogelwch

Take your knowledge with our Safety Quiz

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw'r dyfnder cyfreithlon ar deiar beic modur?

1mm ar gyfer beic modur ac mae'n rhaid cael gwadn weladwy ar gyfer moped.

Beth yw prif achosion damweiniau beiciau modur?

Mae ystadegau'n dangos bod y rhan fwyaf o feicwyr modur yn cael damweiniau rhwng 11am a 4pm ar ddydd Sul heulog. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn reidwyr sydd heb fod allan ar eu beiciau ers tro ac nid yw eu lefelau canolbwyntio gystal, neu maent yn feicwyr gorhyderus sy'n gyrru ar hyd ffyrdd cyfarwydd ac yn gyrru yn ôl yr hyn y maent yn ei wybod yn hytrach na'r hyn y maent yn ei weld.

A oes cyfyngiad oed ar gyfer cludo teithiwr ar biliwn?

Nac oes, ond os ydynt o dan 16 oed, rhaid cael caniatâd rhiant/warcheidwad. Mae'n rhaid eu bod hefyd yn gallu cydio yn y beic, eu bod yn gwisgo dillad amddiffynnol, bod y ddwy droed yn cyffwrdd y troedleoedd a rhaid iddynt ddeall yr wybodaeth y mae'r reidiwr yn ei rhoi iddynt.

Ydy fy mhlât rhif yn gyfreithlon?

Gall beiciau modur a gofrestrwyd cyn 1 Medi ddangos plât tair llinell, ond mae platiau un llinell yn anghyfreithlon, beth bynnag oedd dyddiad cofrestru'r beic modur.

Beth yw'r prawf llygaid?

Mae'n ofynnol gan y DSA (yr Asiantaeth Safonau Gyrru) eich bod yn gallu darllen plât cofrestru cyfreithlon 20.5 metr i ffwrdd mewn golau da heb, neu â sbectol. Os oes angen sbectol arnoch i ddarllen y llythrennau a'r rhifau, dylech eu gwisgo bob amser wrth reidio.

Beth yw'r oedran gofynnol i sefyll fy mhrawf beic?

Yn fyr, 16 oed yw'r oed cyfreithlon i sefyll prawf moped a 17 oed ar gyfer trwydded beic lawn. Serch hynny, mae llawer o ofynion cyfreithiol ar gyfer hyn. Cliciwch yma i fynd i wefan y DSA am fwy o fanylion.

Ydw i'n gallu defnyddio fy ffôn symudol yn fy llaw wrth reidio?

Mae'r un rheolau'n berthnasol i feicwyr a cheir. Mae'n drosedd os nad ydy'ch cerbyd dan reolaeth briodol bob amser - mae cael sgwrs ar y ffôn symudol wrth reidio, hyd yn oed os nad yw'r ffôn yn eich llaw, yn tynnu sylw ac fe'i hystyrir yn drosedd.