"Rwy'n llawer mwy ymwybodol o'r peryglon pob dydd sy'n cael eu cymryd yn ganiataol yn rhy aml a chefais ddarlun cyffredinol o ba mor beryglus y gall beic modur fod yn y dwylo anghywir. Yn bersonol, petai'r diwrnod hyfforddi yma wedi bodoli tua 40 mlynedd yn ôl, efallai y byddai wedi arbed i mi lanio yn yr ysbyty dair gwaith."
'Wedi mwynhau'r cwrs
mâs draw. Rwy'n teimlo mod i'n gwella'n barod ac rwy'n teimlo'n fwy hyderus ac wedi datblygu."
'Rhagorol. Wedi mwynhau'n fawr iawn a byddaf yn ei argymell i bobl eraill. Rwy'n edrych ymlaen at fynd
mâs a chael ymarfer yr hyn rwy wedi ei ddysgu."
'Yn hwylus iawn ac yn ddefnyddiol iawn. Y cwrs uwch gorau ar reidio yr wyf wedi ei wneud erioed."
'Roedd cymhwyso'r theori i ymarfer ar y ffordd yn syfrdanol."
'Roedd y cydbwysedd yn y cwrs yn dda iawn. Rwy wedi dysgu cymaint ac mae fy reidio wedi gwella 100%. Mae fy hyder wedi cynyddu tu hwnt ac rwy mor falch fy mod i wedi mynd. Bydda i'n sicr yn mynd ar gwrs arall yn y dyfodol. Rhagorol!"
'Roedd y cwrs cyfan yn rhagorol. Roedd pob agwedd wedi'i gynnwys yn dda. Rwy wedi dysgu sgiliau defnyddiol iawn ac rwy'n siŵr fy mod i erbyn hyn yn
reidiwr mwy diogel, nid yn unig ar y beic modur ond hefyd yn y car - mae'r sgiliau'n berthnasol iawn."