"Rwy'n un o'r reidwyr hynny sy'n rhan sylweddol o ystadegau damweiniau gogledd Cymru. Rwy'n 36 mlwydd oed ac rwy'n reidio beic cystadlu pwerus gyda chryn frwdfrydedd. Ar ôl dod i mewn i'r 'system', rwy wedi dechrau ar broses a fydd yn gwneud lles mawr i'r reidio a'm diogelwch fy hun."
"Dw i'n meddwl bod yr hyn y mae'ch tîm yn ei wneud i ennill calonnau a meddyliau reidwyr yn anhygoel. Dw i'n teimlo llawer mwy hyderus erbyn hyn."
"Ga i fynegi gair o ddiolch am benwythnos GWYCH ar gwrs BikeSafe. Dw i'n newydd i'r byd beicio ac roedd dod yn syth o Direct Access yn werthfawr iawn."
"Ew, roedd y parafeddyg yn dda. Dw i wedi gwneud llawer iawn o gyrsiau cymorth cyntaf oherwydd fy ngwaith ac yn ystod y cyfnod byr y bu o'n siarad â ni, cefais gryn dipyn o wybodaeth a allai wneud gwahaniaeth mawr petawn i'n gallu helpu mewn Damwain Traffig Ffordd."
"Diolch o galon am benwythnos BikeSafe gwirioneddol wych. Aeth Matthew a fi adra' ar hyd rhai heolydd cefn ac mae ei reidio 10 gwaith yn well rwan."