John Reynolds (Cyn Bencampwr Superbike Prydeinig)
Bob blwyddyn, mae beiciau modur yn gyflymach, yn fwy pwerus ac yn fwy soffistigedig. Ar yr un pryd, mae'r ffyrdd yn fwy prysur, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i feicwyr fod yn llawer mwy medrus gan loywi eu sgiliau reidio'n gyson er mwyn ymdopi â gofynion ffyrdd a pheiriannau heddiw.
Dyw hi ddim o bwys pa mor brofiadol ydych chi fel beiciwr. Efallai eich bod wedi reidio ers blynyddoedd neu'n dychwelyd ato wedi cymryd egwyl. Nid yw'r reidiwyr gorau byth yn peidio â dysgu a gall pawb elwa o hyfforddiant ychwanegol er mwyn diweddaru eu gwybodaeth, dysgu sgiliau newydd a deall beth yw hyd a lled eu beiciau. Po fwyaf y dysgwch, mwya'r pleser a gewch o reidio a mwya diogel y byddwch pan ewch chi allan ar eich beic.
Cynllun yw BikeSafe sy'n cael ei redeg gan heddluoedd ar draws yr DU, lle gallwch ddysgu gan arbenigwyr sy'n treulio oriau ar gefn beic bob dydd. Bydd plismyn beic modur profiadol yn trosglwyddo'u sgiliau a'u gwybodaeth mewn gweithdai i'ch helpu i fod yn reidiwr mwy diogel a medrus a chynyddu'ch hyder ar yr un pryd.
Mae'r cyrsiau yn cydbwyso theori'r ystafell ddosbarth â reidiau asesu, gan gwmpasu cannoedd o filltiroedd a rhoi'r theori ar waith. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am weithdai BikeSafe yn eich ardal chi.
Gallwch hefyd ennill cwrs BikeSafe drwy ymweld â'r adran gystadlaethau.
Beth am ystyried mynd ar gwrs hyfforddi prawf beic modur uwch gyda RoSPA? Cewch gyfle nid yn unig i wella'ch reidio a chael bod ymhlith beicwyr gorau'r wlad, ond gallwch ostwng pris eich yswiriant hefyd, lleihau straen ac elwa o lai o draul a gwisgo ar eich beic. Cliciwch yma i ddarllen mwy o wybodaeth am RoSPA.
Mae sawl corff beicio modur arall ar gael i'ch helpu i wella'ch reidio, fel Sefydliad y Gyrwyr Uwch (IAM). Chwiliwch yn y Yellow Pages am fwy o fanylion am gyrsiau ac ysgolion beicio modur yn eich ardal.