Paul, Abertawe
Dyw reidio ar hyd ffordd ddeuol ar 70mya ddim yn amser da i orfod gwneud stop brys! Roeddwn i wedi bod yn ceisio dal i fyny â'r fan wen feiddgar a oedd yn lôn un. Symudais i lôn dau wrth iddi arafu eto ac arwyddo i'r chwith.
Wrth i mi nesáu symudodd y fan i fynedfa dreif tŷ ond wedyn yn gwbl ddirybudd, gwnaeth dro 'pedol' ar draws y lôn i fwlch yn y llain ganol! Roeddwn ar fin gwrthdaro â phanel cefn allanol y fan a chael gweld beth oedd cynnwys cefn y fan.
Roedd fy meic CBR 1000 mewn sgid ac roeddwn i wedi colli rheolaeth. Ond, fel Popeye a'i dun o sbigoglys, cofiais beth roeddwn wedi ei ddysgu ar gwrs Road Craft, a rhyddhau'r brêcs. Llwyddais i reoli'r llywio eto gan fynd heibio i gefn y cerbyd o drwch blewyn ac yn wir mewn digon o bryd i godi fy llaw'n gwrtais ar y gyrrwr.
Serch hynny mi ges fan llyfn ar yr olwyn gefn. (Roedd hynny'n dystiolaeth y dylwn i fod wedi bod yn ddigon hyderus i ddefnyddio mwy o'r brêc blaen).
Paul Michael, gogledd Cymru
Croesodd seiclwr y ffordd heb edrych a'm gorfodi i wyro'n sydyn a bwrw cefn car.
Rich , Cas-gwent
Croesi pont afon ar 90 gradd yng ngogledd Cymru ac yna 90 gradd i'r chwith eto i ddilyn llwybr yr afon. Sgathrodd y goes chwith y ffordd wrth i feiciwr arall a oedd yn mynd i'r cyfeiriad arall ogwyddo drosta i. Dw i'n dal i weld y peth dros 25 mlynedd wedi hynny.
Michael, Caerdydd
Wrth deithio ar hyd ffordd ddeuol yn y lôn fewnol - roedd y traffig yn eitha trwm ac felly doeddwn i ddim yn gwneud mwy na tua 30-35 mya - dyma fan yn y lôn allanol yn penderfynu ei bod am ddod i'r lôn fewnol i'r union fan lle roeddwn i.
Dim ond oherwydd mod i'n gwylio'i holwyn flaen fewnol yr oeddwn i'n sylweddol ei bod yn dod drosodd (roedd ongl yr olwyn wedi troi i'm cyfeiriad i). Diolch i'r drefn gwelodd y car y tu ôl i fi olau fy mrêc a thynnodd yn ôl ychydig, gan roi lle i mi wneud stop brys. Pan yrrais at ffenest y fan wrth y goleuadau traffig nesa, roedd yn gwbl anymwybodol o'r hyn yr oedd wedi'i wneud.
David, Abertawe
Defnyddio'r brêc blaen ar droad!
Simon, Caerdydd
Cael fy mwrw i lawr gan gar a oedd yn goddiweddyd. Doedd y gyrrwr ddim yn edrych.
Justin , Caerdydd