English | Cysylltu â ni | Hepgor Llywio
 

Blog plismon beic modur

Bike cop blog

Profi'ch gwybodaeth gyda'n cwis diogelwch

Take your knowledge with our Safety Quiz

Ydych chi'n Gyrru Car?

Gellir dadlau bod beicwyr modur yn yrwyr ceir gwell oherwydd y sgiliau ychwanegol y mae'n rhaid iddynt eu cael i reidio beic.

Mae gyrru ar ddwy olwyn nid yn unig yn golygu bod beicwyr modur yn fwy agored i niwed na modurwyr eraill ond mae reidio beic modur hefyd yn gofyn llawer mwy gan y corff a'r meddwl na gyrru car. Os nad ydych chi wedi'ch argyhoeddi, darllenwch ymlaen.  

Mae beicwyr yn defnyddio'u hymennydd.

Oherwydd eu bod yn fwy agored i niwed a bod ganddynt llai o amddiffyniad o'u cymharu â modurwyr eraill, rhaid i feicwyr fod yn fwy effro ac ymwybodol pan fyddant ar y ffordd. Maent yn edrych y tu ôl iddynt ac yn gwirio'u mannau dall cyn newid cyflymder, cyfeiriad neu leoliad ac er mwyn gwybod beth sydd y tu ôl iddynt.  

Mae beicwyr yn defnyddio'u synhwyrau.

Pa mor aml y byddech chi'n agor y ffenestr wrth yrru'r car i weld a oes arogl glaswellt wedi'i ladd, a allai awgrymu bod tractorau ar y ffordd, neu ddîsl wedi gollwng? Mae beicwyr yn defnyddio'u synnwyr arogli i'w rhybuddio am beryglon posib. Maent hefyd yn hyfforddi eu llygaid i wylio o'u blaen am yr annisgwyl yn lle canolbwyntio ar yr hyn sy'n union o'u blaenau. Ac wrth gwrs, oherwydd nad yw'r gerddoriaeth yn eu byddaru neu eu bod yn sgwrsio gyda'u ffrindiau, mae eu synhwyrau'n fwy effro.  

Mae beicwyr yn rhagweld ... popeth

Bydd beiciwr da yn cynllunio'i daith, gan gynnwys egwyl gorffwys, ac yn rhagweld yr hyn y bydd modurwyr eraill ar fin ei wneud. Mae'n meddwl ymlaen drwy'r amser am bob perygl, ac yn darllen yr holl arwyddion - cyfeiriadol, saethau, marciau ffordd, a hyd yn oed marciau sgidio ar y ffordd.  

Gall beicwyr ddweud wrthych chi sut aethant o A i B.

Mae'n ddigon hawdd cyrraedd pen eich taith wrth yrru car heb gofio'r daith o gwbl oherwydd yr holl bethau sy'n tynnu'ch sylw, fel y radio, y ffôn symudol a'ch teithwyr. Ond oherwydd bod yn rhaid i feicwyr fod yn effro ac yn sylwgar bob amser, gallant rhoi hanes manwl iawn o'u taith.  

Mae beicwyr bob amser yn gofyn beth petai ...

Beth petai gyrrwr y car o'm blaen heb fy ngweld? Beth petai'r tywydd yn newid yn sydyn? Beth petai'r lori ar ochr arall y ffordd yn croesi i'm lôn i wrth i mi ddilyn y tro? Caiff beicwyr eu dysgu i gwestiynu popeth ac ystyried a defnyddio cymaint o wybodaeth â phosib i'w cadw'n ddiogel ar y ffordd.  

Mae beicwyr dan reolaeth ... bob amser

Mae'n rhaid i feicwyr gadw'u pennau bob amser a'r ddwy law ar gyrn y beic. Mae'n annhebygol y gwelwch chi feiciwr yn cael mwgyn, yn darllen map neu'n defnyddio ffôn symudol wrth yrru. Maent yn fwy ymwybodol o'u diogelwch eu hunain (drwy ofalu bod ganddynt y cit cywir) a'u peiriannau (yn archwilio'u beic cyn teithio). Mae'r gyfeillach ymhlith beicwyr yn golygu bod ganddynt fwy o barch at ei gilydd a defnyddwyr eraill y ffyrdd ac felly'n cadw rheolaeth ar gythraul gyrru.