Yn meddwl eich bod chi’n gwybod popeth am fynd ar y ffordd? Profwch eich gwybodaeth am reidio yn y cwis syml yma.
Beth dylech ei wneud cyn arwyddo a manwfro?
(A) Edrych y tu ôl i chi gan ddefnyddio’ch drych a gwiriadau dros ysgwydd (B) Newid gêr (C) Canu’r corn
Beth yw’r cyfyngiad cyflymder cyfreithlon i feic modur ar y draffordd?
(A) 60mya (B) 70mya (C) 80mya
Sawl lliw sydd i’r stydiau ffordd adlewyrchol ar y draffordd?
(A) Dau (B) Tri (C) Pedwar
Cyn gadael traffordd ar gyffordd, pryd dylech chi arwyddo?
(A) Bwrdd nodi hanner milltir (B) Bwrdd nodi 300 llath (C) Bwrdd nodi milltir
Sawl math o farciau ffordd sydd ar gyfer canol y ffordd gerbyd?
A oes hawl gan feiciwr modur i halio beic modur arall os yw wedi torri lawr?
(A) Oes (B) Nac oes
Beth sy’n achosi sgidio? (ticiwch dri)
(A) Gormod o gyflymder (B) Brecio’n rhy galed (C) Defnyddio’r sbardun yn sydyn (D) Ffyrdd llithrig (E) Tywydd gwael
Beth yw’r canllawiau ynghylch defnyddio’ch corn?
(A) Peidio â’i defnyddio rhwng 11pm a 7am mewn ardaloedd adeiledig (B) Gallwch ei ddefnyddio unrhyw amser (C) Dim ond mewn argyfwng
Beth yw’r rheol reidio diogel sylfaenol?
(A) Rhaid eich bod yn gallu stopio o fewn pellter y gallwch weld ei fod yn glir (B) Rhaid eich bod yn gallu brecio i stopio’r beic heb sgidio (C) Rhaid eich bod yn gallu manwfro’n ddiogel i ffwrdd o’r perygl
Pryd dylech chi ystyried rhoi arwydd?
(A) Cyn newid eich safle neu gyflymder (B) Cyn goddiweddyd (C) Stopio/dechrau (D) Pob un o’r uchod